Clwb Coffi
Mae Clwb Coffi yn siop goffi arbenigol sydd ar genhadaeth i ddod â phobl Cwm Rhondda ynghyd yn ei siop yng nghanol tref hanesyddol Tonypandy.
Mae pobl yn mynd yno i sgwrsio, i weithio ag eraill ac i rannu straeon. Mae achlysuron arbennig, cerddoriaeth fyw, comedi a stondinau bwyd stryd gwadd hefyd yn ymddangos yno.
Mae ystod o ddiodydd poeth ac oer, yn ogystal â brecinio, gan gynnwys afocado ar bagel, powlenni iachus, crempogau Americanaidd, brechdanau selsig ac wy a llawer yn rhagor.
Mae hefyd wedi'i drwyddedu’n llawn ac mae'n gwerthu gwinoedd, cwrw lleol, a hyd yn oed wisgi Penderyn.
Mae Clwb Coffi hefyd yn falch o fod wedi'i ymrwymo i gynaliadwyedd, gan weini cynnyrch lleol lle bo hynny'n bosibl, a defnyddio cwpanau y mae modd eu hailddefnyddio.
Ble: Tonypandy , CF40 1AS
Math: Bar, Desserts, Take-away, Café





