Ystafell â golygfa braf
Oes unrhyw beth yn well na deffro i olygfa anhygoel? Mae ein tirwedd yn hardd, ac mae modd i chi fwynhau'r olygfa mewn sawl un o'n mannau aros, o'r eiliad rydych chi'n agor y drws.
Cân Yr Afon
Mae Cân Yr Afon, wedi'i amgylchynu gan lwybrau cerdded, teithiau beic a golygfeydd godidog. Cewch ddeffro i gân yr adar, a golygfeydd arbennig o Ben Pych, un o'r unig ddau fynydd clogwyn pen bwrdd yn Ewrop. Os ewch chi dafliad carreg o’ch gardd gefn, mae rhaeadr yn aros amdanoch chi!

Parc Gwledig Cwm Dâr
Dewch i aros yn eich carafán, cartref modur neu fan gwersylla yng nghanol 500 erw o olygfeydd godidog ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Mae'r parc yn gartref i Barc Beicio Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, y cyntaf o'i fath yn y DU. Unwaith y byddwch chi wedi setlo, mae gwyliau cyfan yn eich aros ym Mharc Gwledig Cwm Dâr; yn ogystal â’r parc beicio, mae Canolfan Farchogaeth Green Meadows yno, Caffi Cwtsh, llyn a milltiroedd o lwybrau cerdded hardd i'w mwynhau.

Cottage 193
Mae Cottage 193 yn eiddo modern a chwaethus yn agos at “Frenhines y Cwm” sef tref Aberdâr, gydag amrywiaeth o siopau annibynnol ac adnabyddus a lleoedd bwyta traddodiadol. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr a Theatr y Colisëwm gerllaw hefyd.

Fferm Valley Fernhill
Mewn cornel ddiarffordd o Gwm Rhondda mae maes glampio Fernhill Valley Farm. Mae pedwar pod hunanarlwyo yma, pob un â'i ardal eistedd ei hun, cegin ac ystafell ymolchi. Mae gyda nhw batio preifat a phwll tân yr un, fel bod modd i chi fwynhau brecwast wrth iddi wawrio neu dostio malws melys dan y sêr gyda'r nos. Byddwch yn deffro i arogl yr awyr agored ac yn dechrau eich diwrnod gyda golygfeydd braf a chân yr adar.

Bird’s Farm
Cewch yma fwynhau man aros unigryw ger troed Bannau Brycheiniog. Mae Fferm Bird's Farm wedi'i leoli yng nghanol golygfeydd godidog a bydd sêr i'w gweld o'ch cwmpas gyda'r nos; mae yma ystod o fannau aros, o Harri the Horse Box, i'r ffermdy mawr, i The Birds House. Â golygfeydd godidog a milltiroedd o lwybrau cerdded ar garreg eich drws, mae rhywbeth i bawb yma yn Bird’s Farm, o grwpiau mawr o gerddwyr i gyplau sydd am fwynhau gwyliau rhamantus.

Neuadd Llechwen
Ac yntau'n blasty gwledig swynol ar un adeg, a bellach yn westy hamddenol, modern, mae Neuadd Llechwen yn swatio mewn amgylchedd hardd ac mae'n cynnwys 46 ystafell wely en-suite modern a helaeth sydd wedi’u dylunio’n dda. Mae bwyty o ansawdd ar y safle, ac opsiynau o ystafelloedd lle mae croeso i gŵn, does dim angen gadael!

Garth Glamping
Mae Garth Glamping yn wersyll sy'n cael ei gynnal gan deulu, oddi ar y grid, ar gyfer glampio a gwersylla, ym mynyddoedd Rhondda Cynon Taf. Roedd yn fferm draddodiadol ar un adeg, ond erbyn hyn mae’n fan heddychlon ar gyfer cael hoe, lle mae modd i westeion anghofio popeth, ailgysylltu â natur, a mwynhau bywyd arafach – y cyfan o fewn cyrraedd y ddinas. Pa bynnag fath o wyliau mae arnoch chi ei eisiau, mae'n aros amdanoch chi yma. Mae Garth Glamping cyn agosed at fyd natur, llwybrau cerdded a golygfeydd godidog, pysgota yn yr afon a nofio gwyllt, ac y mae at atyniadau ac anturiaethau.
