Mwynhau Noson Allan Wych yn RhCT
Os ydych chi awydd noson allan ar ôl diwrnod yn mwynhau'r hyn sydd gyda RCT i'w gynnig chewch chi ddim eich siomi ar ôl i'r haul fachlud. Mae gyda ni amrywiaeth o ganol trefi i weddu i bob naws gyda phob un yn hygyrch mewn car, ar y trên neu ar fws
Coctêls a Bariau Gwin
Rhondda Cynon Taf yw'r lle perffaith i fynd 'mas-mas'. Dyma restr o rai o'n hoff leoliadau – dawnsiwch drwy'r nos, galwch heibio am beint, a gwnewch y mwyaf o'ch noson allan!
Tipsy Owl, Stryd Fawr, Pontypridd
Mae The Tipsy Owl yn far coctels "cudd" oddi ar y Stryd Fawr, Pontypridd. Gydag awyrgylch trydanol yn aros amdanoch chi, mae hefyd yn cynnig cerddoriaeth fyw a choffi. Cafodd y trysor cudd yma ei bleidleisio'n Far Gorau Cymru 2025, ac mae'n hawdd gweld pam!
No 12 Cocktail Bar, Stryd y Farchnad, Pontypridd
Mae No 12 Cocktail Bar yn cynnig coctels, cerddoriaeth fyw a tapas mewn lleoliad bywiog ac agos atoch chi. Yn ogystal â pherfformwyr byw, gallwch chi hefyd roi cynnig eich hun ar karaoke! Cadwch lygad am achlysuron a pherfformiadau arbennig, fel te prynhawn, brunch di-waelod a pherfformiadau drag.
Tafarnau Lleol Croesawgar a Chwrw Blasus
Mae gyda Rhondda Cynon Taf sawl lle i fwynhau diod gyda'r nos – does gyda ni ddim lle i'w rhestru nhw i gyd. Ewch am beint i le mae'r bobl leol yn mynd drwy ymweld â rhai o'n ffefrynnau isod:
The Bunch of Grapes, Ynysangharad Road, Pontypridd
Tafarn hanesyddol arobryn sy'n dyddio'n ôl i ganol y 1800au yw The Bunch Of Grapes, ac mae achlysuron bwyd a diod arbennig yn cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn. Mae'n ymddangos yn gyson yn The Good Food Guide, ac mae'r bar yn enwog am ei amrywiaeth a'i ystod unigryw o gwrw crefft a seidr gwadd. Mae hyn yn cynnwys ei gwrw crefft arobryn ei hun o'i fragdy bach ar y safle, sef Cwrw Otley.
Otley Brewpub and Kitchen, Trefforest
Bar a bwyty annibynnol yw'r Otley Brewpub and Kitchen sy'n gweini ei gwrw Mabby Brewing Co ei hun a gafodd ei greu gan fragwr arobryn, ymhlith amrywiaeth eang o gwrw gan fragwyr eraill.
Clwb Y Bont, Taff Street, Pontypridd
Y bar eiconig yma yw'r lle i fod ym Mhontypridd, gydag amserlen achlysuron o gerddoriaeth fyw i gwisiau. Clwb y Bont yw'r lle perffaith i ymweld ag ef i brofi gwir ddiwylliant Cymru, ymarfer eich Cymraeg neu fwynhau cerddoriaeth Gymraeg!
Grey Trees Brewery National Tap, Aberdâr
Mae Grey Trees Brewery National Tap yn gwneud y cwrw crefftus gorau oll o ffynonellau dŵr croyw Cymru. Bar blaen siop yw’r National Tap ar gyfer Bragdy Grey Trees, ble mae modd i chi flasu a mwynhau’r cwrw ar y safle, neu brynu peth ohono fe i fynd adref gyda chi. Mae mannau eistedd dan do ac yn yr awyr agored i chi fwynhau'r detholiad gorau o gwrw gan fragwyr annibynnol.
Swper Rhamantus
Dewch i fwynhau ein hamrywiaeth o fwyd blasus a phrofi croeso cynnes enwog y Cymoedd mewn lleoliadau sy'n werth eu rhannu ag eraill.
Janet’s Authentic Northen Chinese, Pontypridd
Bwyty bach gydag enw mawr yw Janet's. Mae wedi ennill amrywiaeth o wobrau cenedlaethol am ei brydau gwreiddiol a blasus sydd wedi’u cyflwyno’n gelfydd, ac mae wedi'i enwi'n un o fwytai gorau Cymru. Mae hyd yn oed wedi bod ar deledu'r BBC!
La Luna, Pont-y-clun
Mae'r bar a thŷ bwyta tapas yma, sydd wedi ennill gwobrau, yn lle gwych ar gyfer pob achlysur, gydag ystod o ddiodydd, pwdinau arbenigol a choctels. Mwynhewch ginio blasus hamddenol, pryd o fwyd arbennig gyda'r nos, neu noson allan gyda ffrindiau a choctels yn ei ardaloedd adloniant preifat.
Bwyty 'Blok', Lanelay Hall, Tonysguboriau
Mae Blok wedi'i leoli yng ngwesty hardd Lanelay Hall, ac yn cynnig cyfleoedd ciniawa coeth sy'n dathlu blasau Cymru a Phrydain. Mae modd i chi fwynhau coctels poblogaidd, moctels a detholiad cynhwysfawr o winoedd. Mwynhewch fwyd o'r radd flaenaf – mae Blok ar restr 101 o Fwytai Stecen Gorau'r Byd 2025!
Bwyty Llechwen Hall, ar gyrion Pontypridd
Wedi'i leoli mewn lleoliad prydferth yng nghefn gwlad, mae Llechwen Hall yn cynnig rhywbeth at ddant bawb. Mae dewisiadau brecwast a chinio ysgafn anffurfiol, neu mae modd i chi fwynhau pryd rhamantus ffurfiol gyda'r nos – gallwch chi hefyd aros dros nos. Mae’r te prynhawn yn boblogaidd iawn ac mae opsiwn cinio dydd Sul hefyd.
Eisiau mynd â'ch ffrind â phedair coes gyda chi? Bwriwch olwg ar ein blog 'cyfeillgar i gŵn' yma: RHCT Cyfeillgar i Gŵn
