Skip to main content

Calan Gaeaf yn Rhondda Cynon Taf: Straeon, mythau, chwedlau ac achlysuron arswydus

Ydych chi'n chwilio am ddiwrnod allan llawn cyffro Calan Gaeaf eleni? Darganfyddwch y mythau, y chwedlau, y straeon ysbryd, a'r achlysuron arswydus sy'n digwydd ledled Rhondda Cynon Taf ym mis Hydref.

O chwedlau lleol dirgel a thai bwganod i hwyl Calan Gaeaf sy'n addas i deuluoedd, mae gan Rondda Cynon Taf ddigon i'ch gwneud chi'n llawn cyffro ar gyfer Calan Gaeaf. P'un a ydych chi'n cael eich swyno gan lên gwerin, gyda diddordeb mewn hanes lleol neu'n chwilio am rywbeth llawn hwyl i'w wneud gyda'r teulu, mae rhywbeth at ddant pawb yn ystod y tymor arswydus yma.

Beth sydd 'mlaen yn Rhondda Cynon Taf dros gyfnod Calan Gaeaf eleni?

Ydych chi'n chwilio am rywbeth arswydus i’w wneud dros gyfnod Calan Gaeaf?

O nosweithiau brawychus a chasglu pwmpenni sy'n addas i deuluoedd i arddangosfeydd tân gwyllt ac anturiaethau arswydus, mae digon o achlysuron Calan Gaeaf yn digwydd ledled Rhondda Cynon Taf ym mis Hydref.

Rhialtwch Calan Gaeaf - Ymunwch â'r cyffro Calan Gaeaf yn Taith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Dewiswch eich pwmpen eich hun, cymerwch ran mewn helfa bwmpenni arswydus, a mwynhewch grefftau Calan Gaeaf, adloniant, a ffair hwyl fach. Mae yna sioeau Calan Gaeaf a gweithgareddau rhyngweithiol arswydus i blant hefyd. Mae sesiynau'n cychwyn am 10am, cliciwch yma i gadw'ch lle ac i gael rhagor o wybodaeth.

Pumpkin head man resized

Anghenfilod y Pwll Glo - I'r rhai sy'n chwilio am rywbeth mwy brawychus, ewch i Zip World Tower, Hirwaun i brofi Anghenfilod y Pwll Glo, wedi'i leoli yng nghyffiniau hen Lofa'r Tŵr. Profwch ŵyl ddychryn gyda bwystfilod yn crwydro'n rhydd, a'r opsiwn i fynd ar y wifren wib enwog yn y tywyllwch! Bydd y profiad Calan Gaeaf yma'n profi'ch dewrder. A fyddwch chi'n ddigon dewr i ymweld? Mae'r sesiynau'n dechrau am 7pm, cliciwch yma i brynu tocynnau ac i gael rhagor o wybodaeth.

View post on Facebook

Tân Gwyllt - Dathlwch Galan Gaeaf gyda noson ysblennydd o adloniant yn achlysur Ponty Big Bang ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Disgwyliwch berfformwyr tân, paentio wynebau am ddim, cerddoriaeth gan GTFM a ffair hwyl. Yna bydd y noson yn gorffen gydag arddangosfa tân gwyllt anhygoel. Gatiau'n agor 31 Hydref am 4.30pm, cliciwch yma i brynu tocynnau ac i gael rhagor o wybodaeth.

Parti Calan Gaeaf i Blant - Parti Calan Gaeaf yn ystod y dydd i blant hyd at ddeg oed, yn cynnwys bwffe ac adloniant i blant. Mae'r parti'n dechrau am 12pm ar 27 Hydref yng Ngwesty Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod. Cliciwch yma i gadw lle ac i gael rhagor o wybodaeth.

Mythau a Chwedlau

Gan ddechrau gyda mythau a chwedlau, mae Rhondda Cynon Taf yn llawn llên gwerin hynod ddiddorol, gyda straeon yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. O gerfluniau dirgel i forwynion chwedlonol yn rhai o leoliadau hanesyddol Rhondda Cynon Taf.

Mae digon i'w ddarganfod.

Arhosiad hydrefol arswydus yn Rhondda Cynon Taf

Hoffech chi aros yn rhywle sydd â digon o hanes?

Dywedir bod Fferm Tŷ Newydd, ffermdy rhestredig Gradd II yn Nhreherbert sy'n dyddio'n ôl i 1652, yn gartref i rai ymwelwyr anarferol o'i gorffennol.

Mae'r ffermdy wedi cael ei gysylltu â straeon am gyn-breswylwyr, synau rhyfedd, a digwyddiadau anesboniadwy. Denodd ei enw o fod yn oruwchnaturiol sylw’r sioe deledu “Celebrity Help! My house is haunted,” hyd yn oed, lle archwiliodd ymchwilwyr paranormal yr eiddo.

Y peth gorau? Mae modd aros dros nos yna. Mae'r ffermdy enwog ar gael fel llety gwyliau, ar gyfer hyd at ddeuddeg o westeion, gyda lle ychwanegol ar gyfer grwpiau mwy.

Dysgwch fwy am Fferm Tŷ Newydd yma.

TY Newydd Farmhouse

Cerflun Ein Harglwyddes

Yn ôl llên gwerin Cymru, darganfuwyd cerflun pren hardd o'r Forwyn Fair a'r baban Iesu yng nghanghennau coeden dderw ger ffynnon sanctaidd leol. Pan geisiodd y Mynachod ddod â'r cerflun i lawr, gwrthododd symud yn ddirgel. Mae'r chwedl yn dweud nad oedd hyd yn oed wyth ych yn gallu ei dynnu o'r goeden. Yn y pen draw, penderfynodd y Mynachod fod y cerflun eisiau ei gysegr ei hun. Unwaith cafodd capel ei adeiladu gerllaw, dychwelon nhw, a'r tro yma, codwyd y cerflun o'r goeden yn rhwydd.

Boed yn wyrth neu'n ddirgelwch, mae'r stori'n parhau i fod yn rhan o'r llên gwerin gyfoethog mewn perthynas â safleoedd hanesyddol Rhondda Cynon Taf.

Eisiau dysgu rhagor am yr hanes y tu ôl i'r chwedl? Beth am ddilyn y llwybr pererindod hynafol a mwynhau harddwch Pen-rhys ar Daith Gerdded Pererindod Pen-rhys? Rhagor o wybodaeth yma.

Penrhys

Morwyn y Llyn

Yn cuddio yn y Rhondda Fach mae Llyn y Forwyn ym Mharc y Darren, sy’n gartref i un o chwedlau mwyaf diddorol Rhondda Cynon Taf.

Mae chwedl yn adrodd am forwyn hardd a ymddangosodd o'r llyn gan gipio calon ffermwr lleol. Cytunodd i'w briodi ar yr amod na fyddai ef byth yn gofyn am ei gorffennol. Pan dorrodd ei addewid, gadawodd hi ef a dychwelodd i'r dŵr am byth. Dywedir bod modd clywed ei lais weithiau’n galw o’r llyn felly gwrandewch yn ofalus pan fyddwch chi’n ymweld.

Ewch am dro drwy'r tirweddau o amgylch Llyn y Forwyn ar Lwybr Parc y Darren ond, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando am lais. Rhagor o wybodaeth yma.

 

 

P'un a ydych chi'n chwilio am ddiwrnod allan i'r teulu, noson sy’n llawn braw, neu rywle i ddangos eich gwisg Calan Gaeaf, mae digonedd yn digwydd ledled Rhondda Cynon Taf.

Byddwch yn barod i archwilio ochr arswydus Rhondda Cynon Taf. Ydych chi'n barod am antur arswydus?