Cyn i'r ysgol ddechrau: 7 peth i'w gwneud gyda'r plant
Mae'r esgidiau ysgol bron wedi'u prynu; mae'r casys pensil bron wedi'u pacio ac rydych chi'n cyfri'r dyddiau nes maen nhw’n dychwelyd i'r ystafell ddosbarth. Ond cyn i'r ailafael yn y drefn, mae yna amser o hyd i wasgu ambell antur deuluol wych.
O heriau awyr agored mwdlyd a golygfeydd mynyddig i helfeydd trysor treftadaeth, cliwiau ystafell ddianc a mannau picnic gyda digon o le i redeg, mae RhCT yn llawn dop o ddiwrnodau allan i'r teulu er mwyn manteisio’n llawn ar ddyddiau olaf gwyliau'r ysgol.
Dyma saith peth i'w gwneud gyda'r plant cyn i'r ysgol ddechrau.
Ewch i fwynhau antur yng Nghanolfan Gweithgareddau Cwm Taf, Pontypridd
Os yw eich plant wrth eu boddau â chyffro, awyr iach ac ychydig o gystadleuaeth hwyliog, mae Canolfan Gweithgareddau Cwm Taf yn ffordd wych o orffen y gwyliau. Mae Canolfan Weithgareddau Cwm Taf yn ganolfan antur deuluol ger Caerdydd sydd wedi'i lleoli ar fferm fynydd weithredol ger Pontypridd. Mae'r ganolfan yn cynnig gweithgareddau antur gan gynnwys beicio cwad i blant, saethyddiaeth, taflu bwyelli a chwrs rhwystrau, gyda gweithgareddau ar gael ar gyfer gwahanol oedrannau (gan gynnwys oedolion!).
Mae'n ddewis gwych i blant hŷn, pobl ifainc a theuluoedd sydd eisiau rhywbeth ychydig yn wahanol i'r diwrnod allan arferol. Creu atgofion mwdlyd, mwynhau golygfeydd cefn gwlad a gadael gyda digon o straeon i'w hadrodd pan fyddan nhw'n ôl yn yr ystafell ddosbarth. Dyma un o'r gweithgareddau awyr agored gorau yn ne Cymru, gan ennill Gwobr Dewis Teithwyr Trip Advisor 2026.
Beicio, cerdded, chwarae, aros a chrwydro ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn wych ar gyfer anturiaethau i’r teulu. Gydag erwau o le agored, llwybrau cerdded, maes chwarae antur, caffi, crwydro wrth lan y llyn a Pharc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, yr unig un o'i fath yng Nghymru, mae'n lle gwych i adael i'r plant losgi egni cyn i'r ysgol ddechrau. Mae'n weithgaredd y mae'n rhaid i chi ei wneud os ydych chi'n hoffi popeth sy'n ymwneud â chwarae yn yr awyr agored!
Mae modd i chi ddod â'ch beiciau eich hun neu logi beiciau ar y safle, mwynhau'r traciau pwmpio neu fwynhau diwrnod ymlaciol gyda thaith gerdded a phicnic. Mae’n wych ar gyfer anturiaethau beicio ar gyfer y teulu. Mae yna hefyd ardal beiciau cydbwyso i blant bach. Mae gan Barc Gwledig Cwm Dâr Gaffi Cwtsh ar y safle hefyd sy’n cynnig diodydd, byrbrydau a phrydau bwyd, a hufen iâ. Mae yna hefyd gyfleusterau gwesty, carafanau a chartrefi modur os ydych chi eisiau troi eich diwrnod allan yn seibiant byr. Mae'r caffi hefyd yn croesawu cŵn, gan wneud diwrnod ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn addas i'r teulu cyfan, hyd yn oed y rhai blewog!

Camwch yn ôl mewn amser yn Neuadd y Dref, Llantrisant
Am ddiwrnod mwy hamddenol gyda digon o ddychymyg, ewch i Neuadd y Dref, Llantrisant. Wedi'i leoli mewn adeilad rhestredig Gradd II wrth ymyl adfeilion Castell Llantrisant, mae Neuadd y Dref yn adrodd hanes y dref hanesyddol yma ar ben bryn trwy arteffactau ac arddangosfeydd sy'n addas i deuluoedd. Mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd, o blant chwilfrydig i aelodau hŷn sy'n caru hanes.
Yn yr atyniad treftadaeth yma yn Rhondda Cynon Taf, mae modd i blant fwynhau arddangosfeydd rhyngweithiol, cystadlaethau a gwisgo i fyny â thema ganoloesol yn Neuadd y Saethyddion. Mae modd iddyn nhw hefyd ddarganfod straeon am saethwyr bwa hir Llantrisant, chwedlau lleol, brwydrau a'r enwog Dr William Price. Cyfle perffaith i ddechrau'r dysgu cyn mynd yn ôl i'r ysgol!
Gwnewch ddiwrnod ohono drwy grwydro hen strydoedd Llantrisant, Lawnt y Castell a'r golygfeydd cyfagos.
Taith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod
Mae Taith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn un o atyniadau teuluol Rhondda Cynon Taf y mae'n rhaid ymweld ag ef. Mae modd i deuluoedd ymuno â Thaith yr Aur Du, dan arweiniad tywysydd sy’n gyn-löwr, a dysgu sut y helpodd glo Cymru i bweru'r byd. Dyma leoliad perffaith ar gyfer gweithgaredd yn ystod gwyliau’r ysgol, a hynny wrth ddysgu fel teulu am hanes Cymru yn yr arddangosfa newydd hefyd.
Mae modd i blant wisgo helmed glöwr, trin a thrafod arddangosfeydd rhyngweithiol, ymweld â mannau wedi'u hail-greu a gweld arteffactau mwyngloddio gwreiddiol yn yr iard, gan gynnwys dramiau, yr Hen Efail a lloches bom Anderson.
Mae'n addysgiadol, yn gofiadwy ac yn llawn straeon go iawn, sy’n berffaith ar gyfer aildanio meddyliau ifainc cyn tymor newydd yr ysgol.
Atyniad dan do i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf, gyda chaffi ar y safle, Caffè Bracchi, sy’n gweini prydau cynnes, byrbrydau ysgafn, cacennau cartref blasus, smwddis a mwy!

Datryswch y cliwiau yn Puzzled Escape Rooms, Ffynnon Taf
Os yw'ch teulu wrth ei fodd â phposau, gwaith tîm a rasio yn erbyn y cloc, mae Puzzled Escape Rooms yn ymarfer ymennydd gwych ar gyfer dychwelyd i'r ysgol. Ag yntau wedi'i leoli yn Ffynnon Taf, mae safle Puzzled yn cynnig anturiaethau ystafell ddianc ymdrochol lle mae teuluoedd yn gweithio gyda'i gilydd i ddatrys cliwiau, cwblhau heriau a churo'r cloc. Dyma adloniant i bob oed, gan gynnwys plant, pobl ifainc a neiniau a theidiau!
Mae'r lleoliad yn cynnig gemau â themâu, gan gynnwys dirgelion morwrol a heriau deallusrwydd artiffisial (AI) dyfodolaidd, gyda phrofiadau wedi'u cynllunio ar gyfer grwpiau a theuluoedd. Mae modd parcio am ddim ar safle Puzzled Escape Rooms hefyd, gyda gorsaf drenau dim ond 10 munud i ffwrdd ar droed a chyfleusterau hygyrch, gan ei gwneud yn opsiwn defnyddiol ar gyfer diwrnod hwyliog allan dan do ger Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.
Creu eich her deuluoleich hun
Cyn i'r ysgol ddechrau, beth am droi diwrnod allan yn her i'r teulu? Dewiswch ddau le sy'n agos at ei gilydd, paciwch fyrbrydau, gosodwch nod a gadewch i'r plant arwain y ffordd.
Gallech chi feicio neu gerdded tuag at Barc Gwledig Barry Sidings, gan ddilyn y llwybrau lleol o dref Pontypridd a'r parc, yna gwobrwyo pawb gan alw heibio’r caffi. Mae modd crwydro Parc Gwledig Barry Sidings hefyd trwy ddilyn Lwybr Tramffordd Richard Griffiths, sy'n cysylltu mannau awyr agored yr ardal â'i threftadaeth o ran y diwydiant glo.
Beth am baru Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda gyda Pharc Gwledig Barry Sidings am ddiwrnod llawn o'r "gorffennol a'r presennol” gan ddechrau gyda stori glo yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, yna ewch allan i’r awyr agored i weld sut mae hen fannau diwydiannol wedi dod yn lleoedd ar gyfer chwarae, beicio ac anturiaethau i'r teulu.
Manteisiwch i’r eithaf ar ddyddiau olaf gwyliau'r ysgol!
P'un a yw eich plant eisiau dringo, reidio, crwydro, gwisgo i fyny, datrys cliwiau neu redeg yn rhydd, mae gan Rondda Cynon Taf ddigon o gyfleoedd i orffen gwyliau'r haf mewn steil.
Felly paciwch y dillad gwrth-ddŵr, yr eli haul, gwefrwch y ffonau, dewch â'r byrbrydau a chrëwch ychydig mwy o atgofion cyn i gloch yr ysgol ganu.
Chwilio am ddiwrnodau allan i'r teulu yn ne Cymru? Dechreuwch eich antur nesaf yn Rhondda Cynon Taf.
Rhedeg, reidio a bwyta ym Mharc Gwledig Barry Sidings, Trehafod
Mae Parc Gwledig Barry Sidings yn un o'r lleoedd hynny lle y mae modd i chi ddod am awr ac aros yno drwy'r prynhawn. Mae'n berffaith ar gyfer diwrnod allan rhad ac am ddim i'r teulu, mae yna fannau gwyrdd agored ar gyfer picnic a gemau, llwybrau gwastad ar gyfer sgwteri bach, trac ‘lan a lawr’, llwybrau beicio, llyn, llwybrau cerdded mynyddig a choetir, a maes chwarae antur. Mae siop y ‘Bike Doctor’ ar y safle ar gael ar gyfer eich holl anghenion beicio.
Mae hwn hefyd yn barc gyda stori. Mae Parc Gwledig Barry Sidings wedi'i leoli ar yr hen linell reilffordd y tramiau a oedd unwaith yn cludo glo o Lofa Lewis Merthyr tuag at Fae Caerdydd, felly mae modd i deuluoedd fwynhau awyr iach ac ychydig o hanes lleol mewn un ymweliad.
Ar ôl taith gerdded, marchogaeth neu chwarae yn y maes chwarae, ewch i Gaffi Barry Sidings am fyrgyrs, sglodion â thopins, ysgytlaethau llaeth, siocled poeth a mwy. Perffaith ar gyfer cael eich gwynt atoch a mwynhau pryd o fwyd. Mae danteithion i gŵn a hufen iâ hefyd ar gael.

