Hwyl i'r teulu heb wario gormod: 7 Gweithgareddau fforddiadwy a rhad ac am ddim i'r teulu yn Rhondda Cynon Taf
Eisiau creu atgofion bythgofiadwy i'r teulu? Does dim rhaid i chi dalu drwy'ch trwyn.
P'un a ydych chi'n trefnu antur yn ystod gwyliau'r ysgol, diwrnod allan ar benwythnos neu'n chwilio am bethau fforddiadwy i'w gwneud gyda phlant yn Ne Cymru, mae Rhondda Cynon Taf yn llawn atyniadau cyffrous, parciau prydferth a phrofiadau treftadaeth hynod ddiddorol i bawb o bob oed. O barciau sblasio awyr agored a llwybrau beicio i'r teulu i amgueddfeydd ac atyniadau hanesyddol, does dim prinder ffyrdd o greu atgofion bythgofiadwy heb wario ffortiwn. Dyma rai o'r atyniadau gorau i'r teulu yn Rhondda Cynon Taf sy'n cynnig gwerth gwych am arian.
Gwnewch Sblash ym Mharc Aberdâr
Un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i'r teulu yn Rhondda Cynon Taf yw Parc Aberdâr, y lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod llawn hwyl yn yr awyr agored. Yn ystod misoedd yr haf, mae Pad Sblasio'r parc ar gael yn rhad ac am ddim – rhywle i'r plant gadw'n cŵl ymhlith y jetiau dŵr a'r nodweddion chwarae rhyngweithiol. Mae'r parc hefyd yn gartref i lyn cychod deniadol. Beth am wylio'r hwyaid, mynd am dro hamddenol neu ymlacio a mwynhau yn y parc prydferth yma? Gyda mannau gwyrdd agored eang, mannau chwarae a digon o le i gael picnic, mae Parc Aberdâr yn cynnig diwrnod allan fforddiadwy y bydd y plant wrth eu bodd ag ef.
Pam ymweld?
- Pad Sblasio am ddim yn ystod misoedd yr haf – am ragor o wybodaeth cliciwch yma
- Mannau chwarae mawr
- Cyrtiau tennis
- Mannau picnic i'r teulu
- Teithiau cerdded prydferth ar lan y llyn

Dysgu am hanes lleol yn Amgueddfa Cwm Cynon, Aberdâr
Os ydych chi'n chwilio am ddiwrnod allan addysgol i'r teulu yn Rhondda Cynon Taf, mae Amgueddfa Cwm Cynon yn cynnig taith ddiddorol drwy hanes lleol.
Wedi'i lleoli ar safle hen Waith Haearn y Gadlys, mae'r amgueddfa'n adrodd hanes y diwydiannau, y cymunedau a'r bobl a roddodd fywyd i Gwm Cynon a De Cymru.
Mae modd i'r plant drin a thrafod arteffactau diddorol, dysgu am arwyr chwaraeon lleol a threftadaeth gyfoethog yr ardal trwy arddangosfeydd deniadol. Gyda mynediad fforddiadwy a gweithgareddau rheolaidd i'r teulu drwy gydol y flwyddyn, mae'n opsiwn gwych i feddyliau ifainc chwilfrydig.
Perffaith ar gyfer:
- Tripiau addysgol i'r teulu
- Y rheiny sy'n hoff o hanes lleol
- Diwrnodau fforddiadwy allan yn Aberdâr
Mwynhewch antur awyr agored ym Mharc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd
Wedi'i leoli o fewn cannoedd o erwau o gefn gwlad godidog Cymru, mae'r parc yn cynnig llwybrau cerdded, mannau chwarae, cyfleoedd i weld bywyd gwyllt a golygfeydd ysblennydd o'r cwm. Mae'r parc hefyd yn gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, y cyntaf o'i fath yn y DU. Wedi'i gynllunio ar gyfer beicwyr o bob gallu, mae'n cynnwys llwybrau llif, traciau 'Lan a Lawr' a mannau pwrpasol ar gyfer beicwyr iau. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn ei gwneud hi'n hawdd mwynhau diwrnod llawn hwyl i'r teulu yn yr awyr agored, gyda'r caffi ar y safle yno i gadw'ch boliau'n llawn ar gyfer y diwrnod cyfan. I deuluoedd sy'n chwilio am weithgareddau awyr agored am ddim yn Ne Cymru, mae ymweld â Pharc Gwledig Cwm Dâr yn hanfodol.
Dyma rai o'r uchafbwyntiau:
- Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd
- Llwybrau cerdded a beicio
- Maes chwarae antur
- Caffi
- Golygfeydd cefn gwlad godidog

Llosgwch ychydig o egni ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
Os oes angen lle ar eich rhai bach i redeg, dringo a chwarae, Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd yw'r dewis perffaith. Mae yn aml yn cael ei ystyried yn un o'r parciau gorau i'r teulu yn Ne Cymru, ac mae'n ffefryn gyda theuluoedd lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'i ardal chwarae boblogaidd i blant yn cynnwys offer sy'n addas ar gyfer ystod o oedrannau, gan gynnig digon o gyfleoedd ar gyfer antur a chwarae dychmygus.
Mae lleoliad prydferth y parc yn golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer picnic i'r teulu, gêm o bêl-droed neu daith gerdded hamddenol ar hyd y llwybrau. Mae mynediad i'r parc yn rhad ac am ddim, ac mae'n un o'r atyniadau teuluol gorau yn yr ardal.
Mae rhai o'r uchafbwyntiau i'r teulu yn cynnwys:
- Ardal chwarae fawr i blant
- Tir parc agored
- Mannau picnic
- Llwybrau cerdded
- Yn agos at atyniadau eraill Pontypridd

Dewch i gael hwyl yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty
Mae ymweld â Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn un o'r profiadau mwyaf cofiadwy i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r cyfleuster nofio awyr agored yma, sydd wedi'i adfer yn hardd, yn cyfuno cymeriad hanesyddol â chyfleusterau modern sy'n addas i deuluoedd.
Gall teuluoedd sblasio yn un o'r tri phwll, gan gynnwys y pwll sblasio i blant bach a phwll gweithgareddau gyda theganau gwynt mawr, wrth fwynhau un o atyniadau awyr agored mwyaf eiconig Cymru. P'un a ydych chi'n ymweld yn ystod gwyliau'r haf neu'n cynllunio diwrnod arbennig i'r teulu, mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn cynnig hwyl i bawb o bob oedran. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cadw lle ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi!
Pam mae teuluoedd wrth eu boddau yma:
- Pyllau awyr agored cynnes
- Sesiynau sy'n addas i deuluoedd
- Pwll sblasio a theganau gwynt mawr
- Mynediad fforddiadwy
- Lleoliad treftadaeth unigryw

Taith i'r gorffennol yn Amgueddfa Pontypridd
Beth am fwrw golwg ar hanes y Cymoedd gydag ymweliad ag Amgueddfa Pontypridd? Wedi'i lleoli gerllaw hen bont enwog y dref, mae'r amgueddfa'n arddangos y straeon, y bobl a'r hyn sydd wedi llunio hanes cyfoethog yr ardal leol.
Mae arddangosfeydd rhyngweithiol ac arteffactau lleol yn helpu i ddod â stori Pontypridd a Chymoedd De Cymru yn fyw. Mae modd i'r plant ddysgu am ddyfeisiadau a diwydiannau lleol, trigolion enwog a threftadaeth y gymuned trwy arddangosfeydd sy'n ysbrydoli chwilfrydedd. Mae'r amgueddfa fach yma'n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd â phlant iau sydd am brofi ymweliad diwylliannol a hamddenol.
Taith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilio i hanes cyfoethog pyllau glo yr ardal, gan gynnig diwrnod cofiadwy i'r teulu hefyd. Mae'r atyniad yma sydd wedi ennill gwobrau yn cynnig cyfle i'r teulu ddysgu am fywyd ym maes glo De Cymru trwy arddangosfeydd am ddim, arteffactau a straeon diddorol gan gyn-lowyr.
Un o'r uchafbwyntiau yw'r daith dywys dan arweiniad cyn-lowyr, sy’n rhannu eu profiadau personol a’u straeon o fywyd dan ddaear. Mae eu hangerdd a'u gwybodaeth yn dod â hanes yn fyw mewn ffordd sy'n cyfareddu ymwelwyr o bob oed. Gydag opsiynau i gael tocynnau i'r teulu a mynediad fforddiadwy, mae'n brofiad sy'n cynnig gwerth gwych am arian gan gyfuno addysg ag antur, ac mae arddangosfa ryngweithiol newydd am ddim yno hefyd!
Pam dylech chi ymweld:
- Dysgu am hanes pyllau glo Cymru
- Teithiau tywys dan arweiniad cyn-lowyr go iawn
- Arddangosfeydd rhyngweithiol
- Opsiynau i gael tocynnau i'r teulu
- Un o'r atyniadau treftadaeth mwyaf eiconig yn Ne Cymru
- Atyniad sydd wedi ennill gwobrau

Dewch o hyd i ddiwrnodau allan fforddiadwy i'r teulu yn Rhondda Cynon Taf
O nofio a beicio i atyniadau treftadaeth a pharciau prydferth, mae Rhondda Cynon Taf yn cynnig rhai o'r diwrnodau gorau fforddiadwy a rhad ac am ddim i'r teulu yn Ne Cymru.
P'un a ydych chi'n ymweld am benwythnos, yn cynllunio'ch gwyliau ysgol neu'n chwilio am bethau fforddiadwy i'w gwneud gyda phlant, fe ddewch chi o hyd i ddigon o atyniadau cyffrous, anturiaethau awyr agored a phrofiadau gwych i'r teulu ledled y fwrdeistref sirol.
Dechreuwch gynllunio eich antur nesaf i'r teulu a dysgwch pam mae Rhondda Cynon Taf yn un o gyrchfannau gorau De Cymru ar gyfer hwyl fforddiadwy i'r teulu.
